Rhif y ddeiseb: P-06-1336

Teitl y ddeiseb: Gwersi Cymraeg am ddim i bawb sydd isio dysgu'r iaith yng Nghymru.

Geiriad y ddeiseb:

Mae llawer iawn o bobl yng Nghymru yn awyddus iawn i ddysgu'r Gymraeg, gyda phobl sy'n byw yma, a phobl sy'n symud i'r wlad eisiau gweld yr iaith yn ffynnu ac yn tyfu. Ond mae llawer iawn o bobl hefyd yn gweld hi'n anodd fforddio gwersi Cymraeg, a dyw defnyddio Duolingo ddim yn ddull dysgu addas i bawb.  Felly mae angen sicrhau bod pawb yn cael cyfle teg i ddysgu'r Gymraeg heb orfod poeni am y gost, a bod trefn iawn i bobl gael dysgu hefyd.

Os ydym ni am gyrraedd y miliwn o siaradwyr, yna mae angen sicrhau bod pawb yn cael y cyfle i ddysgu'r iaith.

 


1.        Y cefndir

Uchelgais Llywodraeth Cymru yw gweld nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru yn cynyddu i 1 miliwn erbyn 2050, a fyddai bron yn dyblu nifer presennol y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru. Dangosodd canlyniadau Cyfrifiad 2021 fod 538,300 o bobl 3 mlwydd oed neu hŷn yng Nghymru wedi dweud eu bod yn gallu siarad Cymraeg.. Mae hwn yn ostyngiad o tua 23,700 o bobl ers Cyfrifiad 2011.

Mae ehangu darpariaeth cyfrwng Cymraeg a chyfleoedd i ddysgu a defnyddio’r iaith yn themâu allweddol yn strategaeth y Gymraeg sef Cymraeg 2050.Maent yn nodi’r canlynol:

Mae gan y sector Cymraeg i Oedolion gyfraniad pwysig i’w wneud i’n nod o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg.  Bydd yn gwneud hyn drwy alluogi oedolion o bob gallu ac oedran i wella’u sgiliau, ailddechrau astudio’r Gymraeg neu ddysgu o’r newydd er mwyn rhoi’r hyder iddynt i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle, yn gymdeithasol neu o fewn y teulu.

Mae Llywodraeth Cymru, drwy gyllid y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, wedi bod yn datblygu cyrsiau Cymraeg i gefnogi datblygiad sgiliau Cymraeg oedolion.

2.     Camau gan Lywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn uniongyrchol. Mae'r Ganolfan (sy'n cynnal ei rhaglenni o dan y faner – Dysgu Cymraeg) yn dosbarthu arian i 11 darparwr cyrsiau ledled Cymru.

Yn ystod 2021-22, dosbarthwyd cyfanswm o £8.7 miliwn i ddarparwyr cyrsiau Dysgu Cymraeg.

A picture containing text, screenshot, font  Description automatically generated 

Mae’r wefan Dysgu Cymraeg yn nodi bod ei chyrsiau Cymraeg ar gael yn ystod y dydd a gyda'r nos, wyneb yn wyneb neu mewn ystafelloedd dosbarth rhithwir. Mae hefyd yn nodi y gall unigolion astudio'n annibynnol, ar-lein.

Mae papur y Gweinidog i’r Pwyllgor yn nodi, er nad yw cynnig cyrsiau Dysgu Cymraeg am ddim yn rhan o strategaeth Cymraeg 2050, mae:

buddsoddiad parhaus [Llywodraeth Cymru] yn y sector Dysgu Cymraeg yn golygu bod ffioedd ar gyfer cyrsiau yn rhesymol iawn, gyda llawer o ddysgwyr yn derbyn hyfforddiant am ddim neu yn talu ffi ostyngol.

Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol

Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, a sefydlwyd yn 2016, yn gyfrifol am bob agwedd o’r sector Dysgu Cymraeg – o ddatblygiad y cwricwlwm a chyrsiau i adnoddau ar gyfer tiwtoriaid, marchnata ac e-ddysgu.

Mae’r Ganolfan nid yn unig yn datblygu darpariaeth ar gyfer oedolion sy’n dymuno dysgu Cymraeg, ond yn gweithio gyda phartneriaid a chyflogwyr i sicrhau bod rhaglenni dysgu rhagweithiol a hyblyg ar gael yn rhwydd i siaradwyr Cymraeg newydd yn y gweithle.

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg yn nodi yn ei bapur fod gan y Ganolfan “bartneriaeth ffurfiol gyda Say Something in Welsh a Duolingo”, sy’n rhoi darpariaeth ddysgu amrywiol ac eang, a dewis i ddysgwyr ac yn sicrhau ar yr un pryd bod adnoddau gwahanol ddarparwyr yn cyd-fynd. Mae hyn, mae’r Gweinidog yn nodi, yn ei gwneud yn “haws i symud o un darparwr i’r llall i weddu i lefel y dysgwr a sut y maent am ddysgu”.

Ymhlith ei darpariaeth amrywiol, mae'r Ganolfan yn cynnig cyrsiau blasu ar-lein i unrhyw un sy'n dymuno cael mynediad atynt. Mae'r rhain yn cyflwyno geiriau ac ymadroddion bob dydd ac mae’r cyrsiau ar gael i bawb am ddim. Gall pobl hefyd gael gafael ar fideos Dysgu Cymraeg am ddim ar YouTube.

Cymraeg Gwaith

Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol hefyd yn cael cyllid i ddatblygu sgiliau Cymraeg gweithwyr ar draws sectorau amrywiol. Mae'r cyrsiau hyn yn aml wedi'u teilwra i gefnogi'r diwydiant neu’r gwasanaeth penodol y maent yn gweithio ynddo, ac maent am ddim. Mae enghreifftiau yn cynnwys Cymraeg i'r Sector Gofal Iechyd, Gofal Cymdeithasol, a’r sectorau Manwerthu a Thwristiaeth.

Mae papur y Gweinidog yn amlygu bod 319 o gyflogwyr yn rhan o’r Cynllun yn 2021-22, a bod dros 6,000 o weithwyr unigol yn dilyn cwrs.

Bydd cyllid a ddyrennir i'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol hefyd yn darparu mynediad at wersi Cymraeg am ddim i’r holl ymarferwyr addysg. Mae hyn yn cynnwys cyrsiau hunan-astudio hyd at gyrsiau dwys lefel uwch. Gall ymarferwyr addysg hefyd gofrestru i ymgymryd â chwrs Cynllun Sabothol trochi 12 mis, a ariennir gan Lywodraeth Cymru.

Camau

Mae Dysgu Cymraeg hefyd yn darparu cynllun 'Camau', sef cwrs hunan-astudio ar-lein ar lefel mynediad (sy’n addas i ddechreuwyr, a'r rhai sydd wedi cwblhau'r cyrsiau blasu) ar gyfer ymarferwyr mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar. Mae'r cwrs wedi'i ariannu'n llawn, gan ddarparu tua 60 awr o ddysgu annibynnol. Ymhlith ei nodau mae cynorthwyo ymarferwyr blynyddoedd cynnar i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg i'w defnyddio gyda phlant; dysgu'r amser; ynganu'r wyddor, lliwiau, dyddiau'r wythnos a rhifo; a dysgu gorchymynion.

Trwy ei bartneriaeth â’r Mudiad Meithrin, gall rhieni newydd neu ddarpar-rieni gofrestru ar gyfer Clwb Cwtsh, sef rhaglen flasu am ddim sy’n canolbwyntio ar siarad Cymraeg gyda phlant ifanc.

Pobl ifanc rhwng 16 a 25 mlwydd oed

Cynhwysodd Llywodraeth Cymru, drwy ei Chytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru ymrwymiad i fuddsoddi yn y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Y nod oedd cynyddu faint o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg sydd yn y sector prentisiaethau a’r sector addysg bellach, ac i ddarparu dysgu Cymraeg am ddim i rai rhwng 16 a 25 mlwydd oed.

O £4.5 miliwn ychwanegol a ddyrannwyd ar gyfer 2023-24 i gefnogi’r rhaglen hon, bydd £2.8 miliwn yn cael ei ddarparu i’r Coleg Cymraeg ac £1.7 miliwn i’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Ffioedd a chymorth ariannol

Er bod llawer o ddarpariaeth Dysgu Cymraeg am ddim ar gael, mae ffi yn daladwy ar gyfer llawer o’r cyrsiau prif ffrwd. Yn ei bapur, mae’r Gweinidog yn nodi bod “polisi ffioedd hael ar waith ar draws yr holl ddarparwyr”. Mae’n nodi, ers 2019 mae:

un ffi o £90 sy’n cael ei godi fesul cwrs, waeth beth fo lleoliad, lefel neu batrwm y cwrs. Ochr yn ochr â hyn mae polisi gostyngiadau sy’n cynnig gostyngiad ffioedd ar gyfer dysgwyr mewn grwpiau blaenoriaeth neu ar gyrsiau sy’n flaenoriaeth. Mae hwn yn cynnwys gostyngiad o 40% i unigolion ar fudd-daliadau, a gostyngiad o hyd at 100% (h.y. cynnig cyrsiau rhad ac am ddim) ar gyfer ffoaduriaid a cheiswyr lloches.

.

Mae papur y Gweinidog yn nodi bod y data diweddaraf yn dangos bod tua 43 y cant o ddysgwyr ar gyrsiau prif ffrwd ar hyn o bryd yn cael rhywfaint o ostyngiad ar eu ffioedd.

Mae hefyd Gronfa Ariannol Wrth Gefn benodol i gefnogi’r rhai sy’n dymuno dysgu Cymraeg ond sy’n profi caledi ariannol. Gellir defnyddio'r cyllid hwn i helpu gyda chostau sy'n gysylltiedig â gofal plant, teithio neu brynu adnoddau er enghraifft.

3.     Camau gan Senedd Cymru

Yn 2019, cyflwynwyd deiseb yn galw am Wersi Cymraeg am Ddim i Bobl Cymru. Ar y pryd, casglodd 95 o lofnodion, ac fe’i cyfeiriwyd at y Pwyllgor Deisebau.

Wrth gau’r ddeiseb, dywedodd Leanne Wood AC ar y pryd:

I'm not sure where we can take this further now, but I do still accept the point that, if the Government wants to increase the number of Welsh speakers to 1 million by 2050, they've got to do a lot more than they're doing now in terms of adult education. This petitioner shows that the financing of lessons is a barrier. I think some of us who feel strongly about this can put pressure elsewhere on this question, but I can't see where we can take this petition now. So, perhaps we can thank the petitioner for raising it, and undertake as individual Members to keep pressing the case for free classes in other aspects of our Assembly work.  

Yn ddiweddar cwblhaodd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol, Ymchwiliad a oedd yn ystyried y fframwaith deddfwriaethol sy'n cefnogi darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg. Er bod yr ymchwiliad yn canolbwyntio ar gefnogi datblygiad darpariaeth addysg Gymraeg, mae yn argymell bod angen i Lywodraeth Cymru:

-      fuddsoddi’n sylweddol mewn uwchsgilio’r gweithlu addysgu presennol, gan roi’r cyfle i nifer uwch o athrawon, cynorthwywyr addysgu a darlithwyr ymgymryd â’r Cynllun Sabothol [cwrs hyfforddiant trochi’r Gymraeg]; ac

-      y dylai Llywodraeth Cymru ystyried a ellid ehangu’r Cynllun Sabothol i rai ymarferwyr blynyddoedd cynnar yng Nghymru sy’n cefnogi darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y sector, neu i hyrwyddo ac ehangu’r Cynllun Dysgu Cymraeg ar gyfer Addysg y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant drwy Dysgu Cymraeg.     

Cyflwynodd Laura Anne Jones AS gwestiwn ysgrifenedig ar 16 Mawrth 2022 yn gofyn i Weinidog y Gymraeg ac Addysg a oes gan Lywodraeth Cymru “darged ar gyfer nifer y bobl ifanc 18 i 25 oed sy’n cofrestru ar gyrsiau am ddim gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol”. Ymatebodd y Gweinidog gan nodi:

The Centre have set a target of attracting 2,500 learners aged 18-25 during 2022-23, and will revise this target annually as they plan the provision with their providers.

The National Centre for Learning Welsh are currently planning a marketing campaign over the summer to attract learners aged 18-25 to take advantage of the offer of free lessons.  Learners in this age group will be able to enrol on any community course across the range of levels available, or will be able to join in specific courses which are being created for this age group.

Delivering free Welsh lessons to 18-25 year olds is being carried out in collaboration with Cefin Campbell MS, the Plaid Cymru designated member, as part of the Co-operation Agreement between the Welsh Government and Plaid Cymru.

Gofynnwyd cwestiwn ysgrifenedig tebyg gan James Evans AS ar 26 Medi 2022 a darparwyd yr un ymateb gan y Gweinidog.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.